Mae brodyr imi aeth ymlaen
Trwy ddyfnach dŵr a phoethach tân;
Ac etto gorchfygasant hwy:
'D yw'r dyfroedd y bûm trwyddynt ddim,
Mewn lled a dyfnder, nerth a grym;
Paham yr ofnaf innau mwy?
Fy enaid, cred byth yn dy Dduw,
Na fydd anfodlon tra yn fyw;
Yr ydwyt beunydd yn nesau
I wlad mae cariad fel y môr
Yn uno'r saint
â'r nefol gôr -
Tragwyddol gydsain bur ddi-drai.
'D wy'n 'nabod dim o'r nefol le,
Ond gwỳn fyd na f'a'wn ynddo 'fe;
'R wy'n caru pawb o fewn y wlad:
Y dymmer nefol fwyn sydd fry
Yn awr ddymunwn genyf fi:
Fy nghartref ydyw tŷ fy Nhad.
William Williams 1717-91
Tonau [888.888]: gwelir: A raid i groesau fyth yn llyn? A raid i gystudd garw'r groes? Mae dydd at ddydd yn dod i ben Mi deithiais ran o'r anial maith |
I have brothers who went forward
Through deeper water and hotter fire;
And yet they overcame:
The waters I went through are nothing,
In breadth and depth, strength and force;
Why would I then fear anymore?
My soul, believe forever in thy God,
Nor be displeased while ever living;
Thou art daily nearing
The land where love is like the sea
Joining the saints
with the heavenly choir -
An eternal, pure, unebbing chorus.
I know nothing of the heavenly place,
But that blessed I would be in it;
I love everyone within the land:
The pleasant heavenly season that is above
Now I would wish I had:
My home is my Father's house.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|